Wedi i chi ymweld ag oriel sy’n aelod o’r cynllun a gweld darn o gelf yr hoffech ei brynu, gofynnwch i staff yr oriel ynglŷn â gwneud cais am fenthyciad Cynllun Casglu. Fe fyddan nhw’n gallu llenwi’r ffurflen gais gyda chi a’i hanfon i ni yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.

Wedi i ni wneud y gwiriadau sydd eu hangen, fe fyddwn ni mewn cyswllt â chi i ddweud a yw eich cais am fenthyciad wedi bod yn llwyddiannus. Os felly, fe fyddwn ni’n anfon eich cytundeb benthyciad wedi’i gymeradwyo atoch, ac fe allwch chi ddefnyddio’r cytundeb hwn wedyn i gasglu eich darn o gelf o’r oriel.

Manylion y benthyciad

Mae benthyciadau’r Cynllun Casglu yn gytundebau credyd di-log*, a gall preswylwyr y Deyrnas Unedig fenthyg rhwng £50 a £5,000 tuag at gost darn neu ddarnau o gelf a chrefft gan artistiaid byw yng Nghymru.

  • Dim ond 10 y cant o flaendal sydd angen i chi dalu ymlaen llaw
  • Bydd benthyciad y Cynllun Casglu yn cael ei ad-dalu mewn rhandaliadau misol drwy ddebyd uniongyrchol
  • Y cyfnod mwyaf ar gyfer ad-dalu benthyciad Cynllun Casglu yw 12 mis
  • Yr ad-daliad misol lleiaf yw £10
  • Fe allwch chi brynu sawl darn o waith celf gan sawl oriel hyd at uchafswm o £5,000 o drothwy cyfleuster credyd
  • Mae benthyciadau ar gael i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n 18 oed neu hŷn ac sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n gallu gweithredu Debyd Uniongyrchol.
  • Fel arfer, caiff benthyciadau’r Cynllun Casglu eu cymeradwyo o fewn 7-10 niwrnod

Oes gennych chi gwestiwn neu ymholiad? Fe welwch chi atebion i’r rhan fwyaf o gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r Cynllun Casglu fan hyn, ac mae manylion ynglŷn â sut i gysylltu â ni i’w gweld fan hyn.

*Cyfradd ganrannol flynyddol 0% cynrychiadol. Canllaw cyffredinol yw’r nodiadau hyn ac nid ydynt yn ffurfio unrhyw gontract na chynnig.