Ar gyfer prynwyr

Mae’r Cynllun Casglu yn galluogi unigolion preifat i gael benthyg arian (yn ddi-log) i helpu i brynu gweithiau celf o’r orielau yng Nghymru sy’n aelodau o’r Cynllun Casglu.

Mae’r Cynllun Casglu yn cael ei redeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Nodau’r cynllun yw:

  • galluogi rhagor o bobl i brynu celf
  • cefnogi orielau yng Nghymru drwy annog mwy o werthiant o waith celf
  • cefnogi artistiaid cyfoes drwy annog mwy o werthiant o waith celf

Mae’r Cynllun Casglu yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig sydd dros 18 oed, yn ddibynnol ar statws.

Mae cost y benthyciad yn cael ei gymorthdalu gan arianwyr y cynllun, Cyngor Celfyddydau Cymru, gan olygu bod y cynllun yn fforddiadwy i’n haelod-orielau ei weithredu, yn ogystal â sicrhau cyfradd ddi-log i brynwyr.

Mae Creative United yn gweithredu menter debyg o’r enw Own Art. Mae manylion pellach i’w gweld fan hyn

Na – mae’r Cynllun Casglu ar gael drwy orielau sydd wedi’u cymeradwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn unig.

Fe allwch chi brynu gweithiau gwreiddiol o gelf a chrefft cyfoes mewn unrhyw gyfrwng gan gynnwys paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, printiau argraffiad cyfyngedig (dim mwy na 150 print yn y rhediad), tecstilau, gemwaith, dodrefn, gwydr, cerameg, gweithiau amlgyfrwng – yn wir, unrhyw waith gwreiddiol gan artist byw.

Y swm lleiaf y gallwch chi gael ei fenthyg yw £50 (ar ôl blaendal). Gall hyn naill ai fod i brynu eitem unigol, neu grŵp o eitemau lle mae’r gwerth cyfunol yn £55 neu fwy.

 

Gallwch – gall y benthyciad fynd tuag at dalu am ddarn o waith celf sy’n costio mwy na £5,000 cyhyd â’ch bod chi’n gallu talu’r gweddill mewn arian parod neu â cherdyn credyd/debyd. Ni chewch wneud cais am sawl benthyciad i dalu am ddarn unigol o waith.

Gallwch – nid oes cyfyngiad ar sawl tro y gallwch chi ddefnyddio’r cynllun. Ond ni allwch fenthyg mwy na’ch cyfyngiad personol o £5,000.

Fe allai cais am gredyd gael ei wrthod gan Gyngor Celfyddydau Cymru am sawl rheswm. Os bydd hyn yn digwydd, fe fydd rhywun yn cysylltu â chi i esbonio’r penderfyniad.

Oes – mae’n rhaid i’r prynwr dalu lleiafswm o 10 y cant o flaendal, yn uniongyrchol i’r oriel, ar bob benthyciad.

Bydd eich taliad cyntaf fel arfer yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif tua phedair wythnos ar ôl y dyddiad y gwnaethoch chi lofnodi’r cytundeb. Fe fyddwch chi’n derbyn llythyr oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru yn cadarnhau’r dyddiad.

Gallwch – ond bydd yn rhaid i chi ddewis naill ai’r 7fed neu’r 21ain o’r mis. Fe allwch chi newid o’ch dewis gwreiddiol drwy gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1390, neu drwy anfon e-bost atom.

Na – nid oes ffi am ad-dalu benthyciadau’r Cynllun Casglu yn gynnar. Fe allwch chi drefnu i ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1390, neu drwy anfon e-bost 


Gwybodaeth i orielau

Mae ceisiadau i orielau ar agor drwy gydol y flwyddyn. Fe welwch chi’r manylion llawn yn y telerau ac amodau fan hyn. Fel arall, cysylltwch â Chyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1390, neu drwy anfon e-bost 

Fe allwch chi lawrlwytho logos fan hyn 


Cysylltu â ni

Cynllun Casglu
Cyngor Celfyddydau Cymru
Llawr 1af
Parc y Tywysog II
Rhodfa’r Tywysog
Bae Colwyn
LL29 8PL

Tel: 03301 242733 (codir cyfraddau galwadau lleol ar gyfer pob galwad)

E-bost: CollectorPlan@arts.wales

Grantiau a gwybodaeth
Gwybodaeth am unrhyw un o'n cyfleoedd ariannu, cymorth i wneud cais am grant neu ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau.

Grantiau i ysgolion a dysgu creadigol
Gwybodaeth am y cynllun dysgu creadigol, gan gynnwys pa arian sydd ar gael.

Datblygu'r celfyddydau
Gwybodaeth gan un o'n swyddogion datblygu, neu i drafod prosiect posibl.

Cyfathrebu
Ymholiadau am gyflwyno datganiad i'r wasg neu hysbyseb swydd i'n gwefan.

Ymchwil
Gwybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith ymchwil, adroddiadau neu ystadegau.

Cyllid
Ymholiadau am eich anfonebau neu’r taliadau rydych chi’n eu disgwyl.

Prif Weithredwr
I gynnig adborth amdanom ni neu i drafod ein gwaith.

Llywodraethu
Ymholiadau am ein polisïau, sut rydym ni’n gweithio neu geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Adnoddau dynol
Gwybodaeth am ein swyddi gwag neu i drafod eich cais am swydd.

Rhyngwladol
Gwybodaeth am Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gan gynnwys pa arian sydd ar gael.