Ar gyfer prynwyr
Mae’r Cynllun Casglu yn galluogi unigolion preifat i gael benthyg arian (yn ddi-log) i helpu i brynu gweithiau celf o’r orielau yng Nghymru sy’n aelodau o’r Cynllun Casglu.
Mae’r Cynllun Casglu yn cael ei redeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Nodau’r cynllun yw:
- galluogi rhagor o bobl i brynu celf
- cefnogi orielau yng Nghymru drwy annog mwy o werthiant o waith celf
- cefnogi artistiaid cyfoes drwy annog mwy o werthiant o waith celf
Mae’r Cynllun Casglu yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig sydd dros 18 oed, yn ddibynnol ar statws.
Mae cost y benthyciad yn cael ei gymorthdalu gan arianwyr y cynllun, Cyngor Celfyddydau Cymru, gan olygu bod y cynllun yn fforddiadwy i’n haelod-orielau ei weithredu, yn ogystal â sicrhau cyfradd ddi-log i brynwyr.
Mae Creative United yn gweithredu menter debyg o’r enw Own Art. Mae manylion pellach i’w gweld fan hyn
Na – mae’r Cynllun Casglu ar gael drwy orielau sydd wedi’u cymeradwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn unig.
Fe allwch chi brynu gweithiau gwreiddiol o gelf a chrefft cyfoes mewn unrhyw gyfrwng gan gynnwys paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, printiau argraffiad cyfyngedig (dim mwy na 150 print yn y rhediad), tecstilau, gemwaith, dodrefn, gwydr, cerameg, gweithiau amlgyfrwng – yn wir, unrhyw waith gwreiddiol gan artist byw.
Y swm lleiaf y gallwch chi gael ei fenthyg yw £50 (ar ôl blaendal). Gall hyn naill ai fod i brynu eitem unigol, neu grŵp o eitemau lle mae’r gwerth cyfunol yn £55 neu fwy.
Gallwch – gall y benthyciad fynd tuag at dalu am ddarn o waith celf sy’n costio mwy na £5,000 cyhyd â’ch bod chi’n gallu talu’r gweddill mewn arian parod neu â cherdyn credyd/debyd. Ni chewch wneud cais am sawl benthyciad i dalu am ddarn unigol o waith.
Gallwch – nid oes cyfyngiad ar sawl tro y gallwch chi ddefnyddio’r cynllun. Ond ni allwch fenthyg mwy na’ch cyfyngiad personol o £5,000.
Fe allai cais am gredyd gael ei wrthod gan Gyngor Celfyddydau Cymru am sawl rheswm. Os bydd hyn yn digwydd, fe fydd rhywun yn cysylltu â chi i esbonio’r penderfyniad.
Oes – mae’n rhaid i’r prynwr dalu lleiafswm o 10 y cant o flaendal, yn uniongyrchol i’r oriel, ar bob benthyciad.
Bydd eich taliad cyntaf fel arfer yn cael ei ddebydu o’ch cyfrif tua phedair wythnos ar ôl y dyddiad y gwnaethoch chi lofnodi’r cytundeb. Fe fyddwch chi’n derbyn llythyr oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru yn cadarnhau’r dyddiad.
Gallwch – ond bydd yn rhaid i chi ddewis naill ai’r 7fed neu’r 21ain o’r mis. Fe allwch chi newid o’ch dewis gwreiddiol drwy gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1390, neu drwy anfon e-bost atom.
Na – nid oes ffi am ad-dalu benthyciadau’r Cynllun Casglu yn gynnar. Fe allwch chi drefnu i ad-dalu’r benthyciad ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru ar 029 2044 1390, neu drwy anfon e-bost
Gwybodaeth i orielau
Mae ceisiadau i’r Cynllun Casglu erbyn hyn ar gau.
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn dod â'i gynllun benthyca poblogaidd, y Cynllun Casglu, i ben ond bydd yn parhau i gynnig benthyciadau di-log i brynu celf yn rhan o gynllun Own Art gan Creative United o 1 Tachwedd 2024 ymlaen. https://www.ownart.org.uk
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag info@ownart.org.uk gan roi ‘Collectorplan Transfer’ yn llinell bwnc yr e-bost.
Fe allwch chi lawrlwytho logos fan hyn
Cysylltu â ni
Cynllun Casglu
Cyngor Celfyddydau Cymru
Llawr 1af
Parc y Tywysog II
Rhodfa’r Tywysog
Bae Colwyn
LL29 8PL
Tel: 03301 242733 (codir cyfraddau galwadau lleol ar gyfer pob galwad)
E-bost: CollectorPlan@arts.wales