Mae’r Cynllun Casglu yn fenthyciad di-log* i’ch helpu i brynu celf a chrefft cyfoes yng Nghymru. Rydyn ni’n cynnig benthyciadau o rhwng £50 a £5,000 i bobl sy’n dymuno prynu darn unigol o gelf neu nifer o weithiau celf gan artistiaid byw yng Nghymru.

Nid yn unig mae’r Cynllun Casglu yn rhoi cyfle i bawb fod yn berchen ar gelf a chael ei mwynhau, ond mae hefyd yn cynorthwyo drwy gefnogi artistiaid Cymru a’r orielau sy’n arddangos eu gwaith, gan arwain at fyd celf ffyniannus yng Nghymru.

Rwyf wedi syrtho mewn cariad â sawl darn o waith celf, mawr a bach, dros y blynyddoedd. Diolch i'r Cynllun Casglu, rwyf wedi myhnd amdani a bellach ry'n ni'n oll yn byw yn hapus ynghyd!

Michael Sparks

*Cyfradd ganrannol flynyddol 0% cynrychiadol. Canllaw cyffredinol yw’r nodiadau hyn ac nid ydynt yn ffurfio unrhyw gontract na chynnig.